John Griffiths AC

Cadeirydd

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

 

 

ELGC(5)-29-18 Papur 2

 

 

 

 

 

 

17 Hydref 2018

 

Annwyl John

 

'Minnau hefyd!' Ymchwiliad i ddefnyddio diwylliant i fynd i’r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru

 

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi lansio ymchwiliad i ystyried sut y gall cyrff sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus ddefnyddio diwylliant a'r celfyddydau i fynd i’r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru. 

Byddwn yn ddiolchgar pe gallem fanteisio ar arbenigedd eich rhanddeiliaid ar gyfer yr ymchwiliad hwn.  Rwy'n deall bod ein timau clercio priodol wedi hyrwyddo'r ymchwiliad hwn gan ddefnyddio'ch cronfa ddata o gysylltiadau.  Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'ch Aelodau hefyd roi cyhoeddusrwydd i'r ymholiad hwn drwy eu cysylltiadau a'u hetholaethau. 

Rydym yn chwilio am atebion i'r cwestiynau canlynol:

§    Pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran gwella cyfranogiad a mynediad at ddiwylliant i bobl mewn tlodi?

§    Pa mor effeithiol y mae ymdrechion cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru (sef Cyngor y Celfyddydau, yr Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru) a llywodraeth leol wedi bod i ddefnyddio diwylliant i drechu tlodi?

§    Pa effaith mae rhaglen Cyfuno Llywodraeth Cymru wedi’i chael ar ddefnyddio diwylliant i fynd i’r afael â thlodi?

§    Pa mor effeithiol mae rhaglenni arloeswyr Cyfuno wedi bod wrth ysgogi cydweithredu lleol?

Rydym yn gofyn bod ymatebion yn cael eu hanfon atom ni yn SeneddCDC@cynulliad.cymru erbyn 14 Rhagfyr.

Byddwn yn cymryd tystiolaeth lafar yn y Flwyddyn Newydd ac yn croesawu awgrymiadau ar gyfer unrhyw fudiadau i'w gwahodd.

 

Byddaf yn sicrhau ein bod yn rhannu canlyniadau ein hymchwiliad gyda'ch Pwyllgor,

 

Yn gywir,

 

 

Bethan Sayed

Cadeirydd